Croeso I Ysgol Croes Atti
Mae Ysgol Croes Atti yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sy'n gweithredu ar draws safleoedd yn y Fflint a Shotton, sef dwy dref ar geg aber Dyfrdwy, ym mwrdeistref sirol Sir y Fflint, Gogledd Cymru.
Mae ganddi oddeutu 250 o blant rhwng 3 a 11 oed ar draws y ddwy safle. Yn ogystal, mae gan yr ysgol gylch chwarae cyfle cynnar a Meithrin plws ar y ddwy safle.
Neges gan y Pennaeth - Mr Gwyn Jones
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i gyflwyno Ysgol Croes Atti i chi. Mae'r wefan hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am ein hysgol, gobeithiaf y bydd o ddefnydd i chi.
Ein blaenoriaeth yn yr ysgol yw creu amgylchedd diogel a chynhwysol a fydd, yn ei dro, yn helpu i ddatblygu plant dwyieithog i ddefnyddio Cymraeg a Saesneg yn hyderus a rhugl o fewn eu bywydau bob dydd. Rydym yn ymdrechu tuag at y safonau uchaf posibl ym mhopeth a wnawn.
Fe'ch gwahoddir i ymweld â ni yn y naill safle neu'r llall, unrhyw adeg.