Neges gan y Pennaeth / Message from the Headteacher

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i gyflwyno Ysgol Croes Atti i chi. Mae’r wefan hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am ein hysgol, gobeithiaf y bydd o ddefnydd i chi.
Ein blaenoriaeth yn yr ysgol yw creu amgylchedd ddiogel a chynhwysol a fydd, yn ei dro, yn helpu i ddatblygu plant dwyieithog i ddefnyddio Cymraeg a Saesneg yn hyderus a rhugl o fewn eu bywydau bob dydd. Rydym yn ymdrechu tuag at y safonau uchaf posibl ym mhopeth a wnawn.

Pam dewis Addysg Gymraeg?

Pa bynnag iaith rydych chi’n ei siarad gartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn. Mae dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi’r cyfle i’ch plentyn ehangu ei sgiliau dwyieithog yn greadigol ac yn academaidd. Mae manteision ehangach i addysg ddwyieithog gan gynnwys effaith gadarnhaol ar alluoedd gwybyddol plentyn, ac mae’r manteision hyn yn para am oes.

Byddem yn falch iawn o groesawu eich plentyn i’n hysgol o unrhyw oedran, a chynnig rhaglen bontio bwrpasol i gefnogi eich penderfyniad i symud eich plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg.

Daw mwyafrif y disgyblion sy’n mynychu Ysgol Croes Atti o gartrefi di-Gymraeg. Cymraeg yw iaith swyddogol ein hysgol, a’n nod yw datblygu gallu plant i gofleidio a defnyddio dwy iaith yn effeithiol erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd.

Gyda hyn mewn golwg rydym yn canolbwyntio ar y Gymraeg yn unig o’r dosbarth Meithrin hyd at flwyddyn 2 ac mae plant yn cael eu trochi yn yr iaith yn y dosbarth ac o gwmpas yr ysgol.

Os dymunwch gael taith o amgylch yr ysgol cysylltwch â ni i wneud apwyntiad a byddwn yn ymdrechu i’w gynnal ar amser sy’n gyfleus i bawb.

Diolch.

Mr Gwyn Jones
Pennaeth


I would like to take this opportunity to introduce you to Croes Atti School. This website gives some information about our school which I hope you will find useful.

Our priority at school is to create a safe and inclusive environment which, in turn, will help develop bilingual children to confidently and fluently use both Welsh and English in their daily routine. We strive towards the highest standards possible in everything we do.

Why choose Welsh?

Whichever language you speak at home, Welsh-medium education can give your child additional opportunities, experiences and skills. Choosing a Welsh-medium education provides your child with the opportunity to extend their bilingual skills creatively and academically. There are wider benefits to a bilingual education including a positive effect on a child’s cognitive abilities, and these benefits last a lifetime.

We would be delighted to welcome your child to our school at any age and offer a dedicated transition programme to support your decision to move your child to a Welsh medium education.

The majority of pupils who attend Ysgol Croes Atti come from non-Welsh speaking homes. Welsh is the official language of our school, and our aim is to develop children’s ability to embrace and use two languages effectively by the time they leave primary school.

With this in mind we focus solely on Welsh during Foundation Learning (nursery to year 2) and children are immersed in the language both in class and around the school.

If you wish to have a tour of the school you are encouraged to contact us to make an appointment which we will endeavor to conduct at a mutually convenient time.

Diolch.

Mr Gwyn Jones
Headteacher