Prospectws Ysgol
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i groesawu chi fel rhieni newydd i Ysgol Croes Atti. Gobeithiaf bydd eich cysylltiad â'r ysgol, drwy eich plant, yn brofiad hapus a gwerth chweil.
Mae'r Llawlyfr rydych ar fin ei ddarllen yn darparu gwybodaeth am Croes Atti, Y Fflint a Shotton, ein nodau ac amcanion, ein cwricwlwm, polisïau, ac mae’n cynnwys gwybodaeth am weithgareddau amrywiol sy’n digwydd o fewn yr ysgol. Felly, fe gyflwynaf ef i chi yn y gobaith y bydd yn gyflwyniad defnyddiol i chi i'r ysgol.
Ysgol Gynradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Croes Atti, yn ran o Awdurdod Addysg leol Sir Fflint, ac mae bron i 250 o ddisgyblion yn yr ysgol rhwng yr ystod oedran 3 – 11 oed.
Rydym yn bwydo Ysgol Maes Garmon, Ysgol Uwchradd gyfrwng Gymraeg lleol yn yr Wyddgrug.
Yn amlwg, mae croeso i chi ymweld â ni unrhyw bryd os ydych yn rhieni gyda phlant yn yr ysgol eisoes, neu os ydych yn ystyried anfon eich plant i Croes Atti, er byddai cais blaenorol am apwyntiad yn cael ei werthfawrogi bob amser.
Yn olaf, nodwch fod y wybodaeth a gyflwynir yn y Llawlyfr hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Fodd bynnag, ni ellir cymryd yn ganiataol na fydd unrhyw newidiadau yn y trefniadau a nodir yn ystod y flwyddyn neu yn y blynyddoedd dilynol.
Gwyn Jones Pennaeth
Gwanwyn 2018