Llythyr gan / Letter from Mr Jnes 09.02.24


Annwyl Rhieni,
Dyma ni wedi cyrraedd hanner ffordd drwy’r flwyddyn academaidd hon; buan iawn mae’r wythnosau yn gwibio heibio. 
Bydd yr ysgol ar gau wythnos nesaf am wyliau’r hanner tymor, ac yn ailagor i ddisgyblion ar Ddydd Llun Chwefror yr 19fed.
Braf iawn yw hysbysebu bod contractwyr wedi cychwyn ar y gwaith o adeiladu ein hysgol newydd yn Oakenholt. Ers ychydig wythnosau bellach maent wedi bod yno yn clirio gwrychoedd ac yn cychwyn paratoi y safle; gyda’r bwriad o gwblhau’r sylfaeni cyn gwyliau haf eleni. Mawr obeithiwn y byddwn yn agor y safle i ddisgyblion ym Mis Medi 2025, ond yn y cyfamser byddwn yn mynd a disgyblion i weld datblygiad gwaith ar y safle yn rheolaidd er mwyn iddynt oll gael teimlo cyswllt rhwng yr hen a’r newydd, y presennol a’r dyfodol.
Llongyfarchiadu i Mrs Booth, athrawes Bl3 a 4 safle Glannau Dyfrdwy, ar enedigaeth ei merch Elsi Wyn yn ddiwweddar. Edrychwn ymlaen et eu croesawu i’r ysgol cyn bo hir.
Yn ddiweddar, cynhaliodd ein Llywodraethwyr Ysgol un o’u cyfarfodydd rheolaidd yn yr ysgol yn ystod y diwrnod ysgol ei hun, a bu’n lwyddiant ysgubol. Treuliwyd y bore yn sgwrsio gyda’r disgyblion am eu gwaith, yn edrych ar safon y gwaith a gyflwynir mewn llyfrau, yn cael taith o amgylch y dosbarthiadau yn ystod amser gwersi, ac yn gweld a chlywed drostynt eu hunain y defnydd a’r brwdfrydedd sydd gan ein disgyblion dros yr iaith Gymraeg a’i diwylliant. Rwy’n ddiolchgar bod llywodraethwyr wedi gallu rhyddhau rhywfaint o’u hamser i gymryd rhan y tro hwn a gobeithio y byddwn yn gallu cynnal cyfarfod tebyg arall cyn gwyliau’r Haf.
Mwynhewch y gwyliau hanner tymor. Gwyn Jones



Dear Parents,
Here we are halfway through this academic year; the weeks have certainly flown by very quickly.
School will be closed next week for the half term holidays, and will reopen to pupils on Monday February 19th.
It is great to announce that contractors have started work on building our new school in Oakenholt. For a few weeks now they have been clearing hedges and starting to prepare the site; with the intention of completing the foundations before this year’s summer holidays. We very much hope that the school will open to pupils in September 2025, but in the meantime we will take pupils to see the work progress at the site regularly so that they can all have a sense of connection between the old and the new, the present and the future.
Congratulations to Mrs Booth, Yr 3 and 4 teacher at our Glannau Dyfrdwy site, on the birth of her daughter Elsi Wyn. We look forward to welcoming them to school soon.
Our School Governors recently held one of their half termly meetings at school during the school day itself, which proved a huge success. They spent the morning chatting with pupils about their work, looking at the standard of work presented in books, having a tour of the classes during lesson time, and seeing and hearing for themselves the use and enthusiasm our pupils have for the Welsh language and culture. I am grateful that governors were able to free some of their time to participate on this occasion and hope that we’ll be able to conduct another similar meeting before the Summer holidays.
Enjoy the half term holidays. Gwyn Jones