Grant Hanfodion Ysgol – Blwyddyn Academaidd 2024/2025 / School Essential Grants – Academic Year beginning September 2024

GWYBODAETH GAN – Cyngor Sir y Fflint
INFORMATION FROM – Flintshire County Council

Grant Hanfodion Ysgol – Blwyddyn Academaidd 2024/2025 Llynedd fe newidiwyd y drefn ar gyfer hawlio Grant Hanfodion Ysgol (y Grant Gwisg Ysgol gynt). Cyflwynwyd y newid i leihau’r angen am lenwi ffurflenni ac i gyflymu’r broses o wneud taliadau, fel bod rhieni a gwarcheidwaid yn gallu cael y grant cyn diwedd mis Gorffennaf. Roedd y newid yma’n llwyddiannus a gwnaethpwyd dros 3,800 o daliadau cyn dechrau’r gwyliau ysgol, gan roi digon o amser i rieni archebu gwisg ysgol. 
Bydd y trefniant yma’n parhau eleni ond, i wneud yn siwr ei fod yn llwyddiant, mae’n bwysig mai dim ond y bobl sydd angen gwneud cais sy’n cyflwyno ffurflen gais. Mae’n rhaid i ni brosesu bob ffurflen â llaw, ac felly mae unrhyw ffurflen a gyflwynir yn ddiangen yn arafu’r broses i rieni a gwarcheidwaid sydd erioed wedi hawlio o’r blaen ac sydd wir angen cyflwyno ffurflen newydd. 
Cyn i chi gyflwyno cais am Grant Hanfodion Ysgol – Blwyddyn Academaidd 24/25, darllenwch y canllawiau isod oherwydd efallai na fydd arnoch chi angen cyflwyno cais eleni.
Bydd y taliadau hyn yn cael eu rhoi ar gyfer plant y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn gallu ateb YDYN/DO i BOB un o’r cwestiynau canlynol;  • A yw eich plant yn cael Prydau Ysgol am Ddim? • A yw eich plant ym Mlwyddyn 1 neu’n hyn ym mlwyddyn academaidd 24/25? (02/09/24 – 21/07/25) • Gawsoch chi Grant Hanfodion Ysgol (y Grant Gwisg Ysgol gynt) rhwng 1 Gorffennaf 2023 a 31 Mai 2024?
Os mai YDYN/DO yw’r ateb i BOB un o’r cwestiynau uchod, nid oes arnoch chi angen ymgeisio am Grant Hanfodion Ysgol eto eleni, gan fod y taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig erbyn 30 Gorffennaf 2024. Os na fyddwch wedi cael taliad erbyn 30 Gorffennaf 2024, anfonwch e-bost at freeschoolmeals@flintshire.gov.uk i ddweud nad yw’r taliad wedi cyrraedd. 
Os yw eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn, yn symud o ysgol y tu allan i Sir y Fflint, neu os yw eich amgylchiadau wedi newid sy’n golygu eich bod chi bellach yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a Grant Hanfodion Ysgol, bydd arnoch chi angen llenwi ffurflen gais. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Sir y Fflint drwy chwilio am ‘Prydau Ysgol am Ddim’ neu deipio’r URL byr yma: www.siryfflint.gov.uk/pyad.  

*******
School Essential Grants – Academic Year beginning September 2024 Last year we changed the process for claiming a School Essentials Grant (formerly Uniform Grant). The change was introduced to reduce the need for form filling, and speed up the process of issuing the payments, therefore enabling the majority of parents and guardians to receive the payment before the end of July. The change was a success and we issued over 3800 payments before the school holidays began, enabling parents plenty of time to order school uniforms.
That change in process will continue this year but to ensure its success, it is important that only people who need to apply, submit an application form. We are required to manually process every application form received, therefore any form submitted unnecessarily will delay the process for parents and guardians who have never claimed before and genuinely need to submit a new form.
Before you submit an application for a School Essential Grants – Academic Year 24/25, please read the guidance below as you may not need to reapply this year.
These payments will be issued in respect of children where the parent or guardian is able to answer YES to ALL of following questions; • Are your children in receipt of eFSM? • Are your children in Year 1 or above for the 24/25 academic school year? (02/09/24 – 21/07/25) • Did you receive a School Essentials Grant (formerly known as Uniform Grant) between 1st July 2023 and 31st May 2024?
If you answer YES to ALL of the questions above, then you do not need to apply for a School Essential Grant this year, as the payments will be issued automatically by 30th July 2024. If you have not received the payment by 30th July 2024, please email freeschoolmeals@flintshire.gov.uk to advise the payment has not been received.
If your child is entering reception, is moving from a school outside of Flintshire, or your circumstances have changed meaning you are now eligible for Free School Meals and a School Essential Grant, you will need to complete an application. This form can be found on Flintshire’s website by searching for ‘Free School Meals’ or by typing in the short URL www.flintshire.gov.uk/FSM.