|
Mynediad am ddim i deuluoedd incwm is i Faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Eleni, mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yng nghae Sioe Môn rhwng Dydd Sadwrn, 23 Mai a Dydd Gwener, 29 Mai.
Yn dilyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae’r Urdd yn falch o allu cynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm is i Faes yr Eisteddfod.
Pwy sy’n cymhywso ar gyfer y tocynnau yma?
Rydych yn gymwys am docynnau am ddim i chi a’ch teulu i Faes yr Eisteddfod os ydych chi’n derbyn un o’r canlynol:
• Cymhorthdal Incwm
• Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
• Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
• Elfen warantedig Credyd Pensiwn
• Credyd Treth Plant
• Credyd Treth Gwaith
• Credyd Cynhwysol
• Aelodaeth Urdd £1
Am rhagor o wybodaeth, neu i archebu’r tocynnau yma, ewch i’n gwefan.
|