Cyngor Eco
Mae ein Cyngor Eco yn gyfrifol am sicrhau ein bod mor eco gyfeillgar yn yr ysgol a sy’n bosib, ac ein bod yn gwneud popeth a allwn i helpu i ddiogelu'r amgylchedd yn yr ysgol a thu hwnt.
Mae Eco Gyngor Ysgol Croes Atti yn cynnwys plant o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6. Mae pob cynrychiolydd yn cael ei ddewis gan ei ddosbarth drwy broses etholiad.
Mae pwyllgor newydd wedi cael ei ethol ar gyfer y flwyddyn hon. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatblygu camau gweithredu newydd 'Eco Ysgolion' ar gyfer y flwyddyn hon. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod a monitro cynnydd ac i drafod unrhyw beth ychwanegol sy’n codi gan y cynrychiolwyr dosbarth. Rydym yn cofnodi cofnodion o'n cyfarfodydd ac yn rhoi adborth ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud i bob dosbarth a staff.